Neidio i'r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y ffurflen Rhoi Gwybod am Dwyll

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r ffurflen Rhoi Gwybod am Dwyll sydd ar GOV.UK.

Gwasanaeth ar gyfer dinasyddion yw hwn. Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi dinasyddion i roi gwybod ar-lein am rywun sy’n cael eu hamau o gyflawni twyll budd-daliadau. Mae’r gwasanaeth yn galluogi dinasyddion i ddatgan beth maent yn meddwl sy’n digwydd a phwy sy’n cymryd rhan. Mae gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i asiantau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sy’n penderfynu a oes digon o wybodaeth i gynnal ymchwiliad.

Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar yr holl wasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio (agor mewn tab newydd).

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio cynnal hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni .

Gallwch hefyd ddweud wrthym os ydych angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn ffurf gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd i ddarllen, recordiad sain neu braille.

Y drefn gorfodaeth

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ y ’rheolaethau hygyrchedd').

Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS) (agor mewn tab newydd).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) (agor mewn tab newydd).

Rydym wedi nodi mater a allai effeithio ar bob defnyddiwr mewn senario prin. Efallai na fydd defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn gallu nodi beth sy'n achosi'r broblem os bydd y broblem yn digwydd. Gallai hyn olygu nad ydynt yn gallu cwblhau'r camau gofynnol i gyflwyno honiad o dwyll i'r adran. Mae'r mater yn cael ei ddisgrifio fel a ganlyn:

  • Mae'r defnyddiwr wedi dewis y sgrin 'peidio â datgan cynilion neu incwm arall nad yw'n gysylltiedig â gwaith' ac yn dewis yr opsiwn 'gwerthu rhywbeth’
  • Mae gan ardal rhoi cynnwys derfyn o 500 nod a gall defnyddwyr symud ymlaen yn ôl y disgwyl cyn belled nad ydynt yn rhoi mwy na hyn
  • Os yw'r defnyddiwr yn dewis 'cyflwyno' ac yna'n dewis y ddolen 'yn ôl' o'r sgrin nesaf, bydd unrhyw fewnbwn ar y sgrin 'peidio â datgan cynilion...' yn dal i fod yn weladwy a gellir ei diwygio. Os yw'r mewnbwn yn cynnwys 'returns' yn y testun, cynhyrchir gofod ychwanegol pan fyddant yn mynd yn ôl i'r mewnbwn hwn. Bydd y gofod neu'r bylchau ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y cyfrif nodau
  • Gall hyn olygu y bydd y cyfrif nodau yn mynd drosodd a bydd gwall dilysu generig yn cael ei greu wrth ddewis cyflwyno
  • Efallai na fydd defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn gallu nodi bod y bylchau ychwanegol wedi cyfrannu at y cyfrif nodau.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Profwyd y wefan hon ddiwethaf yn Mehefin 2025. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, drwy ddefnyddio dull sampl i gwmpasu cymaint o wahanol gydrannau a phatrymau dylunio â phosibl. Cynhaliwyd y profion drwy ddefnyddio cyfuniad o brofion awtomataidd a llaw , gan gynnwys y technolegau cynorthwyol VoiceOver, Voice Control a Zoom.

Paratowyd y datganiad hon ar 30 Mehefin 2025.